Hawliau LHDT yn Wganda

Hawliau LHDT yn Wganda
Enghraifft o'r canlynolHawliau LHDT yn ôl gwlad neu diriogaeth Edit this on Wikidata
Baner y gymuned LHDT y Wganda

Ni chydnabyddir hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a thrawsryweddol (LHDT) yn Wganda.

Yn Rhagfyr 2013 pasiwyd deddf gan senedd Wganda i gosbi cyfunrywioldeb yn llym, gan gynnwys carchar am oes am "gyfunrywioldeb difrifolach", sydd yn cynnwys cyfathrach gyfunrywiol gan unigolyn sydd yn HIV-positif, cyfathrach gyfunrywiol gyda pherson o dan 18 oed neu gyda pherson anabl, ac achosion niferus o gyfunrywioldeb.[1] Dirymwyd y ddeddf yn sgil dyfarniad gan lys cyfansoddiadol Wganda yn Awst 2014, am iddi gael ei phasio heb gworwm yn y senedd.[2]

Ym Mawrth 2023 pasiwyd deddf gan senedd Wganda i anghyfreithloni uniaethu'n LHDT, cyfathrach rywiol rhwng dau berson o'r un ryw, hyrwyddo ac annog cyfunrywioldeb, a chynllwynio i gyfathrachu'n gyfunrywiol. Cosbir y troseddau hyn yn llym, gan gynnwys y gosb eithaf am gyfunrywioldeb difrifolach a charchar am oes am gyfathrach gyfunrywiol. Yn ôl y sefydliad anllywodraethol Human Rights Watch, hon yw'r gyfraith gyntaf yn y byd i wneud hunaniaeth LHDT yn drosedd ynddi ei hun.[3] Daeth y Ddeddf Wrth-Gyfunrywioldeb, gyda mân newidiadau, i rym wedi i'r Arlywydd Yoweri Museveni ei harwyddo ym Mai 2023.[4][5]

  1. (Saesneg) "Uganda MPs pass controversial anti-gay law", Al Jazeera (21 Rhagfyr 2013). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Mawrth 2023.
  2. (Saesneg) David Smith, "Uganda anti-gay law declared 'null and void' by constitutional court", The Guardian (1 Awst 2014). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Hydref 2019.
  3. (Saesneg) "Uganda passes a law making it a crime to identify as LGBTQ", Reuters (21 Mawrth 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Mawrth 2023.
  4. (Saesneg) Samuel Okiror, "Ugandan president signs anti-LGBTQ+ law with death penalty for same-sex acts", The Guardian (29 Mai 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 29 Mai 2023.
  5. (Saesneg) "Uganda's President Museveni approves tough new anti-gay law", BBC (29 Mai 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 29 Mai 2023.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy